Brigham Young
Brigham Young | |
---|---|
Ganwyd | 1 Mehefin 1801 Whitingham |
Bu farw | 29 Awst 1877 o peritonitis Salt Lake City |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | diwinydd, gwaith y saer, proffwyd, gwleidydd |
Blodeuodd | 1863 |
Swydd | Governor of the Territory of Utah |
Tad | John Young |
Mam | Abigail Nabby Howe |
Priod | Miriam Angeline Works Young, Mary Ann Angell, Lucy Ann Young, Harriet Elizabeth Young, Emily Dow Partridge, Clarissa Ann Young, Louisa Beeman, Eliza R. Snow, Margaret Young, Mary Elizabeth Rollins Lightner, Margaret Maria Young, Zina D. H. Young, Lucy Young, Harriet Amelia Folsom, Ann Eliza Young, Hannah T. King |
Plant | Susa Young Gates, Zina P. Young Card, Maria Young Dougall, B. Morris Young, Brigham Young, Jr., Joseph Don Carlos Young, John Willard Young, Joseph Angell Young, Oscar Brigham Young, Mahonri Moriancumer Young, Ernest Irving Young, Sr., Emily Augusta Young, Willard Young, Alice Young Clawson, Clarissa Young Spencer |
llofnod | |
Un o arweinwyr amlycaf Mormoniaeth yn yr Unol Daleithiau oedd Brigham Young (1 Mehefin 1801 - 29 Awst 1877). Ef oedd arweinydd symudiad y Mormoniaid tua'r gorllewin, a sefydlydd Salt Lake City yn Utah.
Ganed Young yn Vermont, a bu'n gweithio fel saer a gôf. Cafodd droedigaeth at Formoniaeth wedi darllen Llyfr Mormon yn fuan wedi ei gyhoeddi yn 1830. Daeth yn flaenllaw fel cenhadwr ac arweinydd. Yn 1844, llofruddiwyd arweinydd y mudiad, Joseph Smith. Symudodd carfan sylweddol o'r Mormoniaid tua'r gorllewin dan arweiniad Young, a sefydlwyd Salt Lake City yn 1847. Apwyntiwyd ef yn rhaglaw cyntaf Tiriogaeth Utah gan yr Arlywydd Millard Fillmore, yn ogystal â bod yn arweinydd Eglwys Iesu Grist Saint y Dyddiau Diwethaf.
Roedd Young yn adnabyddus am ei gred mewn amlwreigiaeth; bu ganddo 55 o wragedd i gyd a chafodd 56 o blant.